CWESTIYNAU CYFFREDIN YNGHYLCH CANLYNIADAU
Gweler yr ymatebion isod i'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch canlyniadau rydym ni'n eu derbyn fel tîm. Gysylltu Hwb os oes rhagor o ymholiadau gennych.
Gweler yr ymatebion isod i'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch canlyniadau rydym ni'n eu derbyn fel tîm. Gysylltu Hwb os oes rhagor o ymholiadau gennych.
Cyhoeddir dyddiadau'r holl asesiadau ar y dudalen Dyddiadau Semester a Thymor.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26:
*Sylwer y gall dyddiadau amrywio ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglenni canlynol: Arwain a Rheoli Peirianneg a Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol
Caiff y canlyniadau eu rhyddhau ar y dyddiadau isod:
Sylwer bod y dyddiadau hyn yn ddangosol ac yn ddarostyngedig i newid.
Dyddiadau cofrestru:
Gallwch weld eich canlyniadau drwy fewngofnodi i'ch cyfrif MyUni a mynd i fewnrwyd y Brifysgol. Yna cliciwch ar yr adran ‘Manylion y Cwrs’ ar ochr chwith y ddewislen a dewiswch ‘Modiwlau 2024’ ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25.
Byddwch yn gweld y marciau ar gyfer pob modiwl drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallwch ehangu pob modiwl er mwyn gweld marciau'r cydrannau asesu.
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Medi, y canlyniadau a ryddheir ym mis Gorffennaf fydd eich canlyniadau terfynol, wedi'u cadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 24-25. Pan ryddheir y canlyniadau terfynol ym mis Gorffennaf, byddwch yn gweld:
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Ionawr, bydd y canlyniadau a ryddheir ym mis Gorffennaf yn farciau dros dro ar gyfer Semester y Gwanwyn. Bydd y marciau hyn yn rhai dros dro hyd nes y cânt eu cadarnhau, a bydd eich marciau terfynol wedi'u cadarnhau yn cael eu rhyddhau ar ôl i chi gwblhau pob un o'ch modiwlau a addysgir.
Gallwch lawrlwytho trawsgrifiad swyddogol wedi'i lofnodi a'i stampio o'ch holl ganlyniadau hyd yn hyn o'ch cyfrif ar fewnrwyd y Brifysgol drwy ddewis y tab 'Manylion y Cwrs' ar y ddewislen ar y chwith a chlicio ar y ddolen 'Trawsgrifiad' ar ochr dde'r dudalen.
Mae eich tystysgrif dyfarniad a'ch trawsgrifiad hefyd ar gael drwy system Gradintel. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, gallwch actifadu eich cyfrif Gradintel drwy fewngofnodi i'ch dangosfwrdd MyUni a mynd i ardal Gradintel. Er mwyn actifadu eich cyfrif Gradintel, chwiliwch am e-bost actifadu a anfonwyd i'ch cyfrif e-bost myfyriwr. Ar ôl i'ch cyfrif gael ei actifadu, bydd gennych fynediad parhaol at eich tystysgrif a'r trawsgrifiad a byddwch yn gallu eu rhannu'n ddiogel â thrydydd partïon.
Pan fyddwch yn gweld eich canlyniadau, mae'r Penderfyniad Lefel yn nodi eich canlyniad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn. Nesaf at eich penderfyniad, gallwch hefyd weld llythyr penderfyniad sy'n cynnwys esboniad o'ch canlyniad. Cliciwch ar y testun glas sy'n dweud 'Gellir gweld esboniad o'ch penderfyniad drwy glicio fan hyn'.
Mae crynodeb byr o'r rheolau asesu ar gyfer pob lefel astudio ar gael ar ein tudalennau crynodebau asesu ar gyfer y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Caiff marciau modiwlau eu cyfrifo drwy roi’r pwysoliad penodol a ddynodir i farc pob cydran. Ar gyfer myfyrwyr Peirianneg, dylai manylion y pwysoliadau hyn fod ar gael yn Llawlyfrau Rhan 2 Peirianneg eich blwyddyn a'ch rhaglen. Yn achos rhaglenni Gwyddoniaeth, gwiriwch dudalennau modiwlau ar Canvas am wybodaeth, a chysylltwch â Chydlynwyr eich Modiwlau'n uniongyrchol os oes ymholiadau penodol.
Enghraifft:
| Cydran Modiwl | Pwysoliad (%) | Pwysoliad (Degol) | Marc Cydran Crai (Allan o 100) | Marc wedi'i Bwysoli |
|---|---|---|---|---|
| Arholiad | 70% | 0.7 | 56 | 39.2 |
| Gwaith Cwrs 1 | 10% | 0.1 | 62 | 6.2 |
| Cyflwyniad | 20% | 0.2 | 69 | 13.8 |
Marc Modiwl = (56 x 0.7) + (62 x 0.1) + (69 x 0.2) = 39.2 + 6.2 + 13.8 = 59.2
Mae eich cyfartaledd ar gyfer y flwyddyn yn cynnwys marciau'r holl fodiwlau sy'n dwyn credydau. Rhoddir y pwysoliad perthnasol i bob modiwl yn ôl ei werth o ran credydau h.y. bydd modiwl 20 credyd yn cyfrannu cymaint ddwywaith at eich cyfartaledd am y flwyddyn â modiwl 10 credyd.
Gweler tudalennau ein rheoliadau asesu Gwyddoniaeth a Pheirianneg i gael manylion ynghylch sut caiff eich gradd ei chyfrifo.
Os mai 'QF' yw canlyniad eich modiwl, mae hyn yn golygu eich bod wedi methu cymhwyso i basio'r modiwl hyd yn oed os yw eich marc cyffredinol ar gyfer y modiwl yn uwch na'r trothwy i basio. Mae hyn oherwydd bod cydran yn y modiwl y mae'n ofynnol i chi ei phasio neu gael marc penodol ynddi cyn y gallwch symud ymlaen neu dderbyn eich gradd. Y rheswm dros fynnu marc pasio neu farc penodol mewn rhai cydrannau yw sicrhau y caiff deilliannau dysgu penodol eu bodloni ar gyfer y modiwl. Os oes gennych fodiwl gyda 'QF', nid oes modd ei ddigolledu.
Ar gyfer rhaglenni Peirianneg, nodir rheolau modiwlau penodol yn Llawlyfr Rhan 2 eich adran neu yn Canvas.
Yn achos rhaglenni Gwyddoniaeth, ceisiwch gyngor gan gydlynwyr eich modiwlau'n uniongyrchol os oes gennych ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol.
Gweler ein tudalen we Opsiynau Ail-wneud Lefel Astudio.
Na, nid yw Prifysgol Abertawe'n caniatáu i fyfyrwyr ddewis ailsefyll arholiadau.
Os byddwch yn ail-wneud modiwl a fethwyd ac yn cael marc is, bydd y Brifysgol yn defnyddio ‘Egwyddor y Marc Gorau’ a chaiff marc eich asesiad gwreiddiol ei gynnwys ar eich trawsgrifiad ac wrth gyfrifo eich lefel/dyfarniad.
Rhaglenni Israddedig a Rhaglenni Ôl-raddedig a ddechreuodd ym mis Medi: Ar gyfer myfyrwyr ar raglenni israddedig a rhaglenni ôl-raddedig a ddechreuodd ym mis Medi, mae'r holl ganlyniadau o Semester 1 yn ganlyniadau dros dro, a ni chânt eu cadarnhau tan i ganlyniadau terfynol y flwyddyn gael eu rhyddhau ym mis Gorffennaf. Ar ôl inni ryddhau canlyniadau terfynol sydd wedi'u cadarnhau, os ydych chi'n meddwl efallai nad ydynt yn gywir, bydd gennych ddewis i ofyn am ymholiad Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.Nid yw’r broses hon ar gael tan ar ôl inni ryddhau canlyniadau ym mis Mehefin/Gorffennaf ac NID ym mis Chwefror oherwydd nad yw marciau'n derfynol yr adeg honno.
Rhaglenni Ôl-raddedig mis Ionawr 2025: Yn achosgyfer myfyrwyr ôl-raddedig a ddechreuodd raglen Meistr ym mis Ionawr 2025, bydd y canlyniadau a ryddheir ar Mawrth 2026 yn ganlyniadau terfynol wedi'u cadarnhau ar gyfer eich rhaglen. Os ydych chi'n meddwl y gallai marc fod yn anghywir, gallwch ofyn am wiriad Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd nawr, ymhen 10 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad rhyddhau'r canlyniadau. Cyn cyflwyno cais, darllenwch yr wybodaeth isod.
Mae'r weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd ar gael i'r holl fyfyrwyr sy'n teimlo y gallai un neu fwy o farciau eu modiwlau fod yn anghywir.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, cysylltwch â The Hwb neu gweler cyfarwyddyd APM y Brifysgol.
Os hoffech apelio yn erbyn penderfyniad a gymerwyd gan Fwrdd Arholi'r Brifysgol, gallwch gyflwyno Ffurflen Apêl Academaidd i Y Tîm Achosion Myfyrwyr ar ôl i'ch canlyniad diwedd y flwyddyn gael ei gyhoeddi. Darllenwch dudalen cyngor ar Apeliadau Academaidd y Brifysgol a chysylltwch â Chanolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr am gymorth gyda'ch cais.
Sylwer nad oes modd i ni fel Cyfadran gynghori myfyrwyr yn uniongyrchol ar y broses hon.