Bydd y Brifysgol yn adolygu data cyfranogi drwy gydol y flwyddyn academaidd a gall newid y gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn er budd lles y myfyrwyr. Bydd y Brifysgol hefyd yn monitro'n agos yr arweiniad diweddaraf gan Fisâu a Mewnfudo'r DU ac efallai bydd angen addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd os bydd y rheoliadau'n newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn rhoi’r diweddaraf am newidiadau i fyfyrwyr drwy eu cyfrifon e-bost prifysgol.
Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir
1. Cyflwyniad
Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod cyfranogiad ac ymrwymiad i ddysgu ac addysgu yn elfennau allweddol wrth sicrhau cyfraddau llwyddiannus o gadw myfyrwyr, a chynnydd, cyflawniad a chyflogadwyedd myfyrwyr. Yn ogystal, mae dyletswydd gyfreithiol ar y Brifysgol i fonitro cyfranogiad mewn addysgu ac i weithredu pan fydd diffyg cyfranogiad. Mae'r ddyletswydd gyfreithiol hon yn deillio o'r gofyniad i roi gwybod am gyfranogiad i gwmnïau benthyciadau myfyrwyr y DU a noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) ar gyfer monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU ar fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Felly, bydd y Brifysgol yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data sy'n cynrychioli cyfranogiad mewn astudiaethau i fonitro cyfranogiad myfyrwyr at y dibenion hyn ac i sicrhau lles myfyrwyr fel y disgrifir yn y polisi isod.
Mae rhai rhaglenni yn cynnwys gofyniad i fonitro cyfranogiad a bennir gan gorff proffesiynol; lle bo hyn yn fwy llym na'r un a bennir gan y Brifysgol, gofyniad y corff proffesiynol gaiff flaenoriaeth.
2. Egwyddorion Allweddol
2.1
Mae'r polisi monitro cyfranogiad hwn yn berthnasol i’r holl fyfyrwyr a addysgir sydd wedi cofrestru ar raglen academaidd yn y Brifysgol. Bydd myfyrwyr a addysgir sydd wedi cofrestru ar raglenni a ddarparwyd drwy bartneriaeth gydweithredol, a fydd wedi'u lleoli'n gyfan gwbl ar y safle partner, yn ddarostyngedig i'r polisïau monitro cyfranogiad a bennwyd gan y sefydliad partner.
2.2
Disgwylir y bydd pob myfyriwr yn cyfranogi mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb o ddechrau'r flwyddyn academaidd. Bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu cyfranogi wyneb yn wyneb ystyried gohirio neu atal eu hastudiaethau. Disgwylir i fyfyrwyr hefyd ymgysylltu â’u hastudiaethau’n bersonol tan ddiwedd y tymor academaidd ar gyfer eu cwrs gan gynnwys y cyfnod asesu.Gall myfyrwyr gyfeirio at Ddyddiadau Tymhorau a Semestrau am ragor o wybodaeth.
2.3
Mae'r Swyddfa Gartref (UKVI) yn disgwyl i fyfyrwyr â nawdd fisa gan y Brifysgol gyfranogi yn eu hastudiaethau wyneb yn wyneb. Mae hyn yn golygu, er mwyn i fyfyrwyr a noddir gan Lwybr Myfyrwyr gydymffurfio'n llawn â'r polisi hwn, fod yn rhaid iddynt fyw o fewn pellter cymudo rhesymol i'r Brifysgol er mwyn mynychu yn ystod oriau gwaith craidd os oes gofyn iddynt wneud hynny. Fodd bynnag, ni ellir ystyried lle mae myfyriwr Llwybr Myfyrwyr yn dewis byw, mewn unrhyw amgylchiad, yn rheswm digonol dros beidio â chydymffurfio â'r polisi hwn o dan unrhyw amgylchiadau. Gweler cyngor ar opsiynau llety lleol y Brifysgol Canllaw Teithio a Llety yn y DU i Fyfyrwyr Rhyngwladol
2.4
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr gymryd rhan yn yr holl sesiynau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl neu raglen ymchwil maent wedi dewis eu dilyn. Mae sesiwn ddysgu gynlluniedig yn cynnwys darlithoedd, seminarau, grwpiau astudio, dosbarthiadau ymarferol, dosbarthiadau enghreifftiol, tiwtorialau, arholiadau, cyfarfodydd goruchwylio, lleoliadau gwaith diwydiannol, teithiau maes neu weithgareddau eraill y mae disgwyl i fyfyrwyr eu cwblhau, ond nid yw'r rhestr hon yn gyflawn.
2.5
Mae monitro presenoldeb yn gefnogol a'i fwriad yw ceisio sicrhau bod lles myfyriwr yn flaenoriaeth. Golyga hyn y gallai tîm Teithiau Addysg y Brifysgol neu'r Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu gysylltu â myfyrwyr am eu lefelau cyfranogiad, neu os yw myfyrwyr yn dangos patrymau pryderus o gyfranogi megis diffyg presenoldeb mewn sesiynau addysgu wyneb yn wyneb, neu fethu cofrestru sweipiau cardiau mewn sesiynau addysgu wyneb yn wyneb, i sefydlu'r rhesymau dros ddiffyg cyfranogiad wyneb yn wyneb a chynnig help a/neu anogaeth iddynt i ymrwymo'n well hyd yn oed os byddant wedi bodloni trothwy ffurfiol y Brifysgol.
2.6
Bydd y Brifysgol yn defnyddio ystod eang o ffynonellau data i fonitro cyfranogiad myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Seilir hyn yn bennaf ar bresenoldeb myfyrwyr yn y sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a drefnwyd a'u defnydd o ddeunyddiau cwrs yn Canvas. I fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr, bydd hyn yn seiliedig ar bresenoldeb mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn unig oherwydd gofynion Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). Mae'n bosib yr ystyrir data ychwanegol wrth ystyried Apeliadau Monitro Cyfranogiad ar gyfer diffyg cyfranogiad fel cyflwyno asesiadau a gwaith cwrs, data a gedwir gan y llyfrgell a chyfranogiad mewn cyfarfodydd tiwtor personol. Gweler pwynt 13 am ragor o wybodaeth am y broses Apeliadau Monitro Cyfranogiad.
2.7
I fyfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn sesiynau wyneb yn wyneb, caiff presenoldeb ei fonitro drwy gerdyn sweipio. Bydd angen i fyfyrwyr dapio eu cerdyn ar y darllenwyr sydd wedi'u lleoli yn eu hystafell addysgu wrth gyrraedd, a chaiff y cerdyn ei gydnabod (bydd y darllenydd yn dangos enw'r myfyriwr).
2.8
Bydd angen i fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr gofrestru trwy'r ap Safezone hefyd unwaith yr wythnos yn ystod y tymor. Er na fydd methu gwneud hynny yn sbarduno unrhyw sancsiynau ffurfiol, bydd y broses gofrestru yn ceisio sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau gofynion Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) i wirio bod myfyrwyr ar y campws. Dylai'r cofrestru ddigwydd yn ystod un ddarlith neu seminar wedi'i hamserlennu bob wythnos. Bydd data yn cael ei gasglu a'i wirio gan y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu a gallai myfyrwyr dderbyn nodyn atgoffa gan y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu os nad ydynt wedi cofrestru ar ap Safezone.
2.9
Mae'n ofynnol i fyfyriwr sganio gan ddefnyddio ei gerdyn ei hun yn unig mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb. Er bod monitro cyfranogiad yn gefnogol yn hytrach na chosbol, mae'r Brifysgol yn cydnabod bod perygl y bydd peth gamfanteisio ar y system, gan gynnwys myfyrwyr sy'n sganio presenoldeb mewn sesiynau dysgu ar ran myfyrwyr eraill neu'n sganio gan beidio â mynychu'r sesiwn ddysgu a amserlennwyd. Bydd unrhyw gamddefnydd posibl o'r system yn amodol ar y broses a amlinellir yn adran 3 isod. Gall y tîm Cydymffurfiaeth Fisa gynnal gwiriadau mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn academaidd i atgoffa myfyrwyr i dapio eu cerdyn wrth fynd i mewn i fannau addysgu. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod darllenwyr cardiau mewn lleoliadau ar draws y campws yn gweithio'n dda.
2.10
Byddwn dim ond yn ystyried cyfranogiad pan fydd modd i'w fonitro. Er enghraifft, os nad oes darllenydd cerdyn yn yr ystafell neu os nad yw'n gweithio, ni fydd hyn yn effeithio ar gofnod cyffredinol y myfyriwr. Yn yr un modd, os caiff sesiwn ddysgu a amserlennwyd ei chanslo drwy ei thynnu o'r amserlen, ni fydd y data cyfranogiad hwn yn cyfrif ar gofnod cyfranogiad y myfyriwr.
2.11
Mae myfyrwyr yn gyfrifol am gofio dod â'u cerdyn i sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac am gael cerdyn newydd os ydynt yn colli eu cerdyn neu os bydd yn torri cyn gynted â phosib.
2.12
Rhaid anfon pob hysbysiad sy'n ofynnol gan y rheoliadau hyn yn y lle cyntaf i gyfeiriad e-bost swyddogol y myfyriwr yn y Brifysgol.
2.13
Bydd myfyrwyr yfyrwyr yn cael gwybod am y gweithdrefnau a'r gofynion ymgysylltu drwy'r Llawlyfrau Academaidd ar gyfer cyrsiau Israddedig ac Ôl-raddedig (a addysgir), a thrwy gyfathrebiadau a anfonir at eu cyfrifon e-bost Prifysgol ar ddechrau pob semester.
2.14
Os bydd yn rhaid i ymgeiswyr dynnu'n ôl o ganlyniad i'r broses hon, byddant yn gyfrifol am dalu costau'r ffioedd dysgu ar gyfer y cyfnod hyd at y dyddiad diwethaf pan wnaethant gyfranogi yn eu hastudiaethau, mynd i sesiwn addysgu neu gyrchu darpariaeth ar-lein (yn ystod cyfnodau addysgu, o ddydd Llun tan ddydd Gwener). Gall cyrsiau proffesiynol penodol, er enghraifft yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, gyfeirio at ddyddiadau lleoliad gwaith wrth gyfrif y dyddiad cyfranogi diwethaf.
2.15
Os bydd yn rhaid i fyfyrwyr newydd dynnu'n ôl ond nid ydynt wedi cyfranogi yn eu hastudiaethau o gwbl, bydd eu dyddiad presenoldeb/cyfranogiad diwethaf yn cael ei gofnodi fel dyddiad cyntaf y tymor.
2.16
Os bydd myfyrwyr yn ailgofrestru ond nid ydynt yn cyfranogi o gwbl, bydd eu dyddiad presenoldeb/cyfranogiad diwethaf yn cael ei gofnodi fel diwrnod olaf tymor y sesiwn addysgu blaenorol. Os bydd myfyrwyr yn dychwelyd ar ôl gohiriad, bydd eu dyddiad cyfranogi diwethaf yn cael ei gofnodi fel dechrau eu cyfnod gohirio blaenorol.
2.17
Mae gan rai cyrsiau ofynion presenoldeb penodol uwch oherwydd rheoliadau proffesiynol. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion hysbysu myfyrwyr, fel rhan o'r wybodaeth am y cwrs, os oes unrhyw ofynion presenoldeb penodol ychwanegol.
2.18
Bydd hefyd ofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud elfen astudio dramor neu leoliad diwydiannol sy'n rhan hanfodol ac asesedig o'u rhaglen gydymffurfio â'r polisi monitro cyfranogiad. Caiff myfyrwyr o'r fath eu monitro o leiaf bob mis (gweler adran 8).
2.19
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni a gyflwynir drwy gyfnodau dwys byr o astudio yn cael eu monitro yn ystod y cyfnodau astudio dwys (gweler adran 7).
3. Atal camddefnyddio'r system
Fel y nodwyd yn 2.9 uchod, mae'n ofynnol i fyfyrwyr ar raglenni a addysgir gofrestru eu presenoldeb mewn sesiynau dysgu cynlluniedig wyneb yn wyneb yn electronig drwy sganio eu cerdyn myfyriwr ar y darllenwyr a geir ym mhob ystafell addysgu. Mae'r Brifysgol yn cydnabod y potensial i gamddefnyddio'r system gyda myfyrwyr yn sganio presenoldeb mewn sesiynau dysgu wedi'u hamserlennu ar gyfer eraill, yn sganio ac yna'n peidio â mynd i'r sesiwn ddysgu sydd wedi'i hamserlennu neu'n sganio mewn ystafelloedd nad ydynt wedi'u rhestru ar eu hamserlen.Bydd y broses ganlynol yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n sganio eu cerdyn ac yn gadael sesiwn, yn sganio cerdyn ar ran myfyriwr arall, yn rhoi eu cerdyn i fyfyriwr arall i gofrestru eu presenoldeb neu’n tapio eu cardiau i gofrestru presenoldeb mewn ystafelloedd nad ydynt ar eu hamserlen:
Cam 1
Bydd y myfyriwr yn cael e-bost gan dîm Teithiau Addysg y Brifysgol yn amlinellu’r polisi ac yn egluro y gallai unrhyw achosion pellach arwain at ganlyniadau dilynol yn unol â’r polisi.
Cam 2
Os canfyddir bod y myfyriwr wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn am yr ail dro, bydd angen i'r myfyriwr fynd i gyfarfod gorfodol gyda thîm Teithiau Addysg i drafod ei resymau.Bydd angen i'r myfyriwr lofnodi contract ymddygiad i gadarnhau ei fod yn deall y polisi ac y gallai achosion pellach arwain at gamau uwchgyfeirio yn unol â'r polisi.
Cam 3
- Bydd myfyrwyr sydd wedi rhoi eu cerdyn i fyfyriwr arall i gofrestru presenoldeb ar eu rhan, wedi tapio eu cerdyn mewn ystafelloedd nad ydynt ar eu hamserlen neu sy'n tapio ac yn gadael heb fynychu'r dosbarth am y trydydd tro yn cael hysbysiad o waharddiad.Bydd gan y myfyriwr 5 niwrnod gwaith i apelio yn erbyn y gwaharddiad yn unol ag Adran 14 o'r polisi hwn.
- Os credir bod myfyriwr wedi sganio cerdyn ar ran myfyriwr/myfyrwyr arall/eraill am y trydydd tro, bydd y mater yn cael ei uwchgyfeirio i'w ystyried o dan Weithdrefnau Disgyblu a/neu Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol.Mae canlyniadau dros dro a therfynol sydd ar gael o dan weithdrefnau o'r fath yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, waharddiad o astudiaethau.
4. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda'r Adran Addysg Barhaus Oedolion
Bydd y broses monitro cyfranogiad yn berthnasol hefyd i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Barhaus Oedolion er mwyn sicrhau lles myfyrwyr. Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau monitro cyfranogiad i'r myfyrwyr hyn yn atodiad y polisi hwn isod.
5. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni proffesiynol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni proffesiynol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn cael eu monitro’n wythnosol trwy ddata sweipio cerdyn mewn sesiynau addysgu wyneb yn wyneb yn unig yn ystod cyfnodau theori ar y campws yn sgil gofynion caeth y rhaglenni astudio. Hysbysir myfyrwyr ar ddechrau'r rhaglen os bydd eu presenoldeb yn cael ei fonitro yn y modd hwn.
Gwahoddir myfyrwyr sy'n arddangos presenoldeb wyneb yn wyneb anfoddhaol dros gyfnod o 3 wythnos i gwrdd â Chyfarwyddwr y Rhaglen i drafod eu diffyg presenoldeb. Gallai myfyrwyr nad ydynt yn mynychu'r cyfarfod â Chyfarwyddwr y Rhaglen neu ei enwebai dderbyn hysbysiad tynnu'n ôl neu ataliad dros dro.
Mae gan rai rhaglenni Meddygaeth ac yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ofynion presenoldeb cyrff proffesiynol sy'n golygu bod angen i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn ddysgu, gan gynnwys lleoliadau a neilltuwyd fel y gellir cyfrifo oriau cyfranogi yn y cwrs. Dylai myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen broffesiynol roi gwybod am bob absenoldeb, boed yn theori neu'n lleoliadau, i'r tîm perthnasol cyn gynted â phosibl. Dylai myfyrwyr gyfeirio at raglen berthnasol hwb Canvas i weld a oes gofynion penodol.
6. Myfyriwr yn astudio gyda'r Coleg a Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS)
Ar gyfer myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr sy'n astudio islaw lefel gradd yn y Coleg a chyda Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (h.y. myfyrwyr sy'n astudio ar lefel 5 Y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) ac islaw, a'r rhai ar lefel 6 RQF ar y cam sylfaen), bydd gwiriadau presenoldeb a monitro ychwanegol ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisi Cyfranogiad Academaidd UKVI ar gyfer darparwyr Addysg Uwch.
Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n astudio islaw lefel gradd (ar lefel 5 RQF ac islaw a'r rhai ar lefel 6 RQF ar y cam sylfaen) ymgymryd â 15 awr o astudio'r wythnos.
Mae rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd presenoldeb yn cael ei fonitro ar gyfer y grwpiau hyn o fyfyrwyr i'w cael yn adran atodiad y polisi hwn.
7. Myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni gradd dilys 'Prifysgol Abertawe Ar-lein
Cysylltir â myfyrwyr sy'n astudio ar raglenni gradd 'Prifysgol Abertawe Ar-lein' sydd wedi'u dilysu gan Brifysgol Abertawe ac sy'n dangos cyfranogiad isel i sefydlu'r rhesymau dros eu diffyg cyfranogiad, cânt eu cyfeirio at wasanaethau cymorth, a'u hannog i ail-ymgysylltu yn unol â'r amserlen yn adran 13 o'r polisi hwn.Os nad oes gwelliant mewn cyfranogiad, gall hyn arwain at roi hysbysiad o ataliad dros dro neu dynnu'n ôl.
8. Ceisiadau am Absenoldeb â Chaniatâd
Rydym yn deall y gall fod gan fyfyrwyr reswm da dros golli sesiynau o bryd i'w gilydd, ond os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i fyfyrwyr wneud yn siŵr eu bod yn dal i wneud eu gwaith. Bydd absenoldebau o bum niwrnod gwaith neu fwy yn cael eu hystyried fel “cais dros dro am absenoldeb o astudio”.Mae "cais dros dro am absenoldeb o raglen astudio" yn absenoldeb dros dro byr sydd wedi'i gymeradwyo gan y Brifysgol gan ddilyn y broses ymgeisio ffurfiol a amlinellir isod. Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol yn eu derbyn:
- Amgylchiadau eithriadol megis salwch neu anaf difrifol.
- Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas neu ffrind agos.
- Amgylchiadau personol neu deuluol anffafriol - megis ysgariad, byrgleriaeth, tân, achos llys sylweddol, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr - sy'n gofyn bod y myfyriwr yn gadael y Brifysgol ar fyr rybudd.
- Dyletswydd rheithgor.
- Ymrwymiadau chwaraeon a/neu gelfyddydol, fel arfer pan fydd y myfyriwr yn cymryd rhan.
Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau na fyddai'r Brifysgol, fel arfer, yn eu derbyn:
- Gwyliau crefyddol
- Digwyddiadau teuluol h.y. priodasau
- Hiraeth cyffredinol am adref
Rydym hefyd yn cydnabod y gall presenoldeb amrywio ymhlith myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu a myfyrwyr sydd ag addasiadau rhesymol.Fodd bynnag, bydd y polisi monitro cyfranogiad hwn yn dal i fod yn berthnasol er mwyn sicrhau nad ydym yn colli cyfleoedd i gyfeirio myfyrwyr a chynnig cymorth. Dylid cyflwyno cais am absenoldeb o bum niwrnod gwaith neu fwy drwy ddefnyddio'r broses ganlynol.
Dylid gwneud ceisiadau i'r Tîm Teithiau Addysg yn y lle cyntaf drwy lenwi'r ffurflen 'Cais am Absenoldeb dros dro o raglen astudio', sydd ar gael o'r dudalen Ffurflenni Academaidd, a rhaid cynnwys tystiolaeth ategol fel arfer. Bydd ceisiadau'n cael eu gwirio gyda'r Cyfarwyddwyr Rhaglenni perthnasol. Os yw myfyriwr yn profi anawsterau personol, teuluol, ariannol neu feddygol sy'n effeithio ar ei allu i ymrwymo i'w astudiaethau, y disgwyliad arferol yw y cynghorir y myfyriwr i ohirio ei astudiaethau.
Oherwydd y risg i lwyddiant academaidd, a gofynion presenoldeb wyneb yn wyneb ar gyfer deiliaid fisa Llwybr Myfyriwr, fel arfer ystyrir ceisiadau am absenoldeb am gyfnod o hyd at 2 wythnos yn unig a rhaid i'r cyfnod absenoldeb beidio â golygu y bydd angen mwy o amser ar y myfyriwr i gwblhau ei raglen. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sydd angen cyfnodau hirach o absenoldeb ohirio eu hastudiaethau. Dylai myfyrwyr sydd angen gohirio eu hastudiaethau a/neu gael estyniad i'w hymgeisyddiaeth ymgynghori â rheoliadau Gohirio Astudiaethau'r Brifysgol ar gyfer rhaglenni a addysgir.Caiff ceisiadau o’r fath eu hystyried fesul achos. Ni ddisgwylir i fwy nag un cyfnod o absenoldeb o'r fath gael ei ganiatáu fesul rhaglen astudio. Caiff ceisiadau mynych am gyfnodau estynedig o absenoldeb eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr ystyried gohirio eu hastudiaethau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Nid yw absenoldeb dros dro o astudio a gymeradwywyd yn gwarantu estyniadau i derfynau amser, y dylid gwneud cais amdanynt gan ddefnyddio'r broses Amgylchiadau Esgusodol.
9. Lleoliadau gwaith ac Astudio Dramor a ddarperir oddi ar unrhyw un o gampysau Prifysgol Abertawe
9.1
Bydd hefyd ofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud elfen astudio dramor neu leoliad diwydiannol sy'n rhan hanfodol ac asesedig o'u rhaglen gydymffurfio â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau monitro cyfranogiad a bennwyd gan y sefydliad astudio dramor neu'r darparwr lleoliad gwaith diwydiannol.
9.2
Caiff myfyrwyr sy’n gwneud elfen astudio dramor neu leoliad gwaith diwydiannol sy’n rhan hanfodol neu asesedig o’u rhaglen eu monitro o leiaf bob mis. Bydd staff yn Abertawe yn cysylltu â myfyrwyr o'r fath unwaith y mis a bydd gofyn iddynt gadarnhau eu bod yn parhau i gyfranogi yn y rhaglen. Bydd myfyrwyr yn cael gwybod am y gofyniad hwn a'r broses ar gyfer cysylltu ar ddechrau'r lleoliad.
9.3
Os na fydd myfyriwr yn ymateb i'r tîm perthnasol pan gysylltir ag ef yn unol â 8.2 uchod, bydd y tîm yn anfon e-bost dilynol ato i atgoffa'r myfyriwr bod yn rhaid iddo ymateb er mwyn cadarnhau ei gyfranogiad parhaus yn ei raglen. Pe na bai myfyrwyr yn ymateb i'r e-bost dilynol byddant yn cael eu hystyried ar gyfer tynnu yn ôl os nad oes tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol. Yn achos Llwybr Myfyrwyr, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn cysylltu â'r myfyrwyr perthnasol.
9.4
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni proffesiynol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd sy'n cyrraedd lefel benodol o absenoldeb yn ystod cyfnodau damcaniaeth, ac sydd â chyfnod parhaus o absenoldeb wrth ddechrau cyfnod ar leoliad, gan arwain at sbarduno'r broses uwchgyfeirio, gyfarfod â'r tîm perthnasol i drafod eu habsenoldeb. Gallai methu ymgysylltu â'r broses hon drwy fynd i gyfarfod gyda'r tîm perthnasol, a rhoi esboniadau boddhaol am gyfnodau o absenoldeb, arwain at anfon hysbysiad o dynnu'r myfyriwr yn ôl neu waharddiad.
9.5
Mae'r rhestr ganlynol yn enghreifftiau o ddigwyddiadau priodol ar gyfer monitro cyfranogiad myfyrwyr sy'n astudio dramor neu ar leoliadau gwaith:
- Cyswllt rhwng y myfyriwr a chydlynydd academaidd y Gyfadran/Ysgol neu aelod penodedig arall o staff. Gall hyn fod ar Zoom, dros y ffôn neu drwy e-bost.
- Cadarnhad o bresenoldeb myfyriwr gan gynrychiolydd penodedig priodol y Brifysgol sy'n derbyn myfyrwyr sy'n astudio dramor neu gynrychiolydd cwmni i fyfyrwyr ar leoliad gwaith.
- Data o gofnodion presenoldeb y Brifysgol berthnasol.
- Mae angen tystiolaeth ychwanegol hefyd ar rai rhaglenni.
9.6
Bydd myfyrwyr sy'n methu cydymffurfio â gofynion eu rhaglen neu y mae eu cyfranogiad yn anfoddhaol yn cael eu hystyried gan y tîm perthnasol, a bydd camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.
10. Myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni ansafonol o astudio a addysgir drwy gyfnodau dwys byr a rhaglenni dysgwr proffesiynol byr
10.1
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gydymffurfio â'r polisi monitro cyfranogiad. Ar gyfer rhaglenni a addysgir dros gyfnodau dwys byr, bydd y broses monitro presenoldeb yn seiliedig ar gyfnodau o 2 ddiwrnod yn ystod pob cyfnod pan fydd sesiynau dysgu a amserlennir wedi'u hamserlennu. Bydd y Gyfadran/yr Ysgol yn darparu manylion am ddyddiadau'r cyfnodau hyn i'r myfyrwyr ar ddechrau’r cwrs. Sylwer, bod gan rai rhaglenni ofynion presenoldeb uwch oherwydd achrediad proffesiynol.
10.2
Bydd Colegau/Ysgolion yn cysylltu â myfyrwyr nad ydynt yn cymryd rhan yn eu hastudiaethau am gyfnod o 2 ddydd ac yn cynnig cymorth iddynt i'w helpu i ailgydio yn eu hastudiaethau.
10.3
Bydd cyfranogiad i fyfyrwyr ar raglenni dysgwr proffesiynol byw yn cael ei fonitro hanner ffordd drwy'r cwrs a bydd eu Cyfadran/Ysgol yn cysylltu â'r myfyrwyr nad ydynt wedi cyfranogi yn y cwrs hyd at y cyfnod hwn i gadarnhau eu cyfranogiad parhaus ar y cwrs. Bydd hysbysiad diddyfnu yn cael ei anfon at fyfyrwyr nad ydynt yn ymateb i'w Cyfadran/Ysgol.
11. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Ran Dau rhaglen Meistr a Addysgir Safonol neu ail flwyddyn Rhaglen Gradd Meistr Estynedig
11.1
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen meistr ôl-raddedig a addysgir, ac sy'n ymgymryd ag elfen ymchwil eu rhaglen (y modiwl(au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd), yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil o ran amlder y monitro (misol).
11.2
Bydd myfyrwyr o'r fath hefyd yn destun y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil o ran y broses uwchgyfeirio. Fodd bynnag, bydd Cadeirydd y Pwyllgor Addysg neu ei enwebai yn cymryd cyfrifoldebau'r Cyfarwyddwr Ymchwil, yng ngham dau o'r broses.
11.3
Myfyrwyr sydd wedi symud ymlaen yn swyddogol i Ran Dau neu gam prosiect/traethawd hir Rhaglen Meistr Ôl-raddedig a Addysgir i ddechrau Medi a hoffai adael Abertawe am resymau personol, a lle bo’n briodol yn academaidd, ddewis i gyflwyno "Cais i Gwblhau Astudiaethau o Bell".Gweler adran 5 o'r Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil am fwy o fanylion.
11.4
Gall myfyrwyr sydd wedi symud ymlaen yn swyddogol i Ran Dau neu gam prosiect/traethawd hir Rhaglen Meistr Ôl-raddedig a Addysgir wneud cais tymor byr i gynnal gwaith maes/casglu data o leoliad astudio amgen.Gweler adran 4 o'r Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil am fwy o fanylion.
12. Gweithdrefnau Pwynt Gwirio Llwybr Myfyrwyr
12.1
I gynorthwyo'r Brifysgol i fodloni ei rhwymedigaethau fel noddwr Llwybr Myfyrwyr, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn gwirio presenoldeb ac ymrwymiad myfyriwr ar dair adeg yn ystod cyfnod treigl o 12 mis. Mae'r rhain yn caniatáu cyfleoedd pellach i ddadansoddi data cyfranogi ar gyfer myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr ar bob lefel astudio.
12.2
Defnyddir pwyntiau gwirio cyfranogiad i gymryd camau gweithredu ar gyfer myfyrwyr, er na fydd ganddynt batrwm o gyfranogiad isel olynol (ac felly efallai na fydd y brifysgol wedi cysylltu â nhw ynglŷn â'u cyfranogiad o'r blaen), a allai fod â chofnod cyfranogi gwael yn gyffredinol neu batrymau o ddiffyg cyfranogi a gallai eu nawdd parhaus achosi risg i drwydded Llwybr Myfyrwyr y Brifysgol heb welliant.
12.3
Bydd adolygiad llawn o'r holl ddata cyfranogiad yn sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni ei chyfrifoldebau i'r Swyddfa Gartref fel Noddwr Llwybr Myfyrwyr, a gall hefyd dynnu sylw at fyfyrwyr sydd angen eglurder ychwanegol ynghylch eu cyfrifoldebau fel myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr. Bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn cysylltu â'r holl adrannau yn union cyn pob gwiriad i ofyn am unrhyw gofnodion perthnasol neu wybodaeth ychwanegol.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 mae pwyntiau gwirio cyfranogiad wedi'u hamserlennu dros dro fel y dangosir isod. Gall y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu ddiwygio'r dyddiadau hyn yn ystod y flwyddyn academaidd.
Gwiriad 1 – Hydref 2026 yn ystod gwyliau'r Nadolig - Bydd hwn yn adolygiad o'r holl ddata ar gyfer myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr ar lefelau astudio meistr a addysgir israddedig ac ôl-raddedig a bydd yn cynnwys myfyrwyr ar gyfnod dramor/lleoliad gwaith, myfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda'r Coleg, Prifysgol Abertawe a chyda Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) sy'n ymgymryd â chyrsiau cyn-sesiynol.
Gwiriad 2 - Gwanwyn 2027 yn ystod gwyliau'r Pasg - data ynghylch myfyrwyr a addysgir yn unig (myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, myfyrwyr a addysgir, myfyrwyr sy'n treulio cyfnod dramor/ar leoliad gwaith, myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Coleg, Prifysgol Abertawe neu ar gyrsiau ELTS cyn-sesiynol).
Gwiriad 3 – Haf 2027 yn ystod mis Awst - myfyrwyr mynediad israddedig ym mis Ionawr a phwynt gwirio meistr ôl-raddedig a addysgir. Monitro myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn ystod cyfnod y traethawd hir, adolygiad llawn o'r holl ddata cyfranogiad a gedwir ar ein system fonitro RMS. Bydd y gwiriad hwn hefyd yn cynnwys adolygiad o bresenoldeb myfyrwyr ar gyrsiau ELTS cyn-sesiynol, myfyrwyr nyrsio sy'n dechrau ym mis Mawrth a myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Coleg, Prifysgol Abertawe ac adolygiad o gyfranogiad yn ystod cyfnod asesu'r haf ar gyfer myfyrwyr a addysgir.
12.4
Os yw myfyriwr yn cael ei nodi mewn gwiriad, gallai camau gweithredu dilynol gan y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu gynnwys:
- Presenoldeb gorfodol mewn cyfarfod statws Llwybr Myfyrwyr.
- Presenoldeb gorfodol mewn cyfarfod Briffio am Bresenoldeb a Chyfranogiad Llwybr Myfyrwyr a/neu eglurhad pellach ynghylch cyfrifoldebau presenoldeb a chyfranogiad myfyriwr.
- Cyswllt drwy e-bost sy'n cynnwys rhybuddion/camau gweithredu pwrpasol.
- Cyswllt drwy e-bost i ganmol cyfranogiad neilltuol.
12.5
Os yw'r myfyriwr yn mynd i gyfarfod gorfodol i wirio statws Llwybr Myfyrwyr neu gyfarfod briffio ac yn rhoi esboniad boddhaol am ei absenoldeb (a thystiolaeth ategol os yw'n berthnasol) i esbonio ei ddiffyg cyfranogiad, caniateir iddo barhau ar ei raglen. Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr arwyddo datganiad yn nodi y bydd yn ailymrwymo i'w astudiaethau. Bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn parhau i fonitro cyfranogiad y myfyriwr yn agos nes eu bod yn fodlon bod y myfyriwr wedi ailgysylltu ag astudiaethau. Hysbysir myfyrwyr am ddyddiadau'r cyfnod ailymrwymo yn y cyfarfod. Ystyrir bod myfyriwr wedi ailgysylltu'n foddhaol os yw ei lefelau cyfranogiad yn parhau yn y trothwy derbyniol yn ystod y cyfnod ailgysylltu.
12.6
Os bydd y myfyriwr yn mynd i gyfarfod statws neu friffio Llwybr Myfyrwyr gorfodol, ond yna'n methu ailgydio yn ei astudiaethau yn y cyfnod ailgydio dilynol, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl o'r Brifysgol a thynnu ei nawdd Llwybr Myfyrwyr yn ôl.
12.7
Os bydd y myfyriwr yn mynd i gyfarfod statws Llwybr Myfyrwyr gorfodol neu sesiwn friffio ond nad yw'n rhoi esboniad boddhaol dros beidio â chyfranogi, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl o'r Brifysgol a thynnu ei nawdd Llwybr Myfyrwyr yn ôl.
12.8
Os na fydd y myfyriwr yn mynd i gyfarfod statws neu friffio Llwybr Myfyrwyr gorfodol, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl o'r Brifysgol a thynnu ei nawdd Llwybr Myfyrwyr yn ôl.
12.9
Gall myfyrwyr y bernir bod eu presenoldeb yn anfoddhaol mewn mwy nag un pwynt gwirio fod yn destun proses fonitro uwch a allai gynnwys gwirio gyda staff Cydymffurfiaeth Fisa ar y campws a defnydd gwell o'r ap SafeZone i ddangos presenoldeb yn bersonol.
13. Y Broses Monitro Cyfranogiad i Fyfyrwyr a Addysgir
13.1
Bydd y Brifysgol yn adolygu defnydd myfyrwyr o ddeunyddiau cwrs yn Canvas a’u cyfranogiad mewn sesiynau wyneb yn wyneb bob pythefnos. I ddeiliaid fisa Llwybr Myfyrwyr, bydd y Brifysgol yn adolygu presenoldeb myfyrwyr mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn wythnosol yn unig. Lluniwyd yr adolygiadau hyn i nodi myfyrwyr y mae eu cyfranogiad wedi disgyn dan y trothwy angenrheidiol, i sicrhau lles myfyrwyr, cadarnhau'r rhesymau am y diffyg cyfranogiad a chynorthwyo myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau neu y gallai fod angen cymorth penodol arnynt i ailgydio o ddifrif.
13.2
Esbonnir y broses isod:
|
Deiliaid Fisa nad ydynt yn Fyfyrwyr |
Deiliaid Fisa Myfyrwyr |
|
|---|---|---|
|
1 wythnos |
||
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb anfoddhaol - 1 wythnos | Amherthnasol | Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr i gynnig cymorth, yn ei gyfeirio at wasanaethau cymorth ac yn ei wahodd i gysylltu â’r Tîm Teithiau Addysg os yw am drafod ei lefelau cyfranogiad neu os oes angen cymorth wrth ymrwymo i'w astudiaethau. |
| 2 wythnos | ||
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb anfoddhaol - 2 wythnos |
Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr i gynnig cymorth, yn ei gyfeirio at wasanaethau cymorth ac yn ei wahodd i gysylltu â’r Tîm Teithiau Addysg os yw am drafod ei lefelau cyfranogiad neu os oes angen cymorth wrth ymrwymo i'w astudiaethau. |
Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr i gynnig cymorth, yn ei gyfeirio at wasanaethau cymorth ac yn ei wahodd i gysylltu â’r Tîm Teithiau Addysg os yw am drafod ei lefelau cyfranogiad neu os oes angen cymorth wrth ymrwymo i'w astudiaethau. |
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb ac ar-lein anfoddhaol - 2 wythnos | Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr i gynnig cymorth, yn ei gyfeirio at wasanaethau cymorth ac yn ei wahodd i gysylltu â’r Tîm Teithiau Addysg os yw am drafod ei lefelau cyfranogiad neu os oes angen cymorth wrth ymrwymo i'w astudiaethau. | Amherthnasol |
| 3 wythnos | ||
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb anfoddhaol - 3 wythnos | Amherthnasol | Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr i gynnig cymorth, yn ei gyfeirio at wasanaethau cymorth ac yn ei wahodd i gysylltu â’r Tîm Teithiau Addysg os yw am drafod ei lefelau cyfranogiad neu os oes angen cymorth wrth ymrwymo i'w astudiaethau. |
| 4 wythnos | ||
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb anfoddhaol - 4 wythnos |
Bydd y Tîm Teithiau Addysg yn cysylltu eto â'r myfyriwr a bydd angen iddo fynd i gyfarfod naill ai wyneb yn wyneb neu'n rhithwir i drafod ei ddiffyg cyfranogiad a darparu unrhyw dystiolaeth sy'n berthnasol i'w lefelau cyfranogiad. Os nad yw'r myfyriwr yn mynd i gyfarfod, bydd y Tîm Teithiau Addysg yn ystyried gwahardd y myfyriwr. |
Bydd y Tîm Teithiau Addysg yn cysylltu eto â'r myfyriwr a bydd angen iddo fynd i gyfarfod naill ai wyneb yn wyneb neu'n rhithwir i drafod ei ddiffyg cyfranogiad a darparu unrhyw dystiolaeth sy'n berthnasol i'w lefelau cyfranogiad. Os nad yw'r myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl o'i raglen. |
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb ac ar-lein anfoddhaol - 4 wythnos |
Bydd y Tîm Teithiau Addysg yn cysylltu eto â'r myfyriwr a bydd angen iddo fynd i gyfarfod naill ai wyneb yn wyneb neu'n rhithwir i drafod ei ddiffyg cyfranogiad a darparu unrhyw dystiolaeth sy'n berthnasol i'w lefelau cyfranogiad. Os nad yw'r myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod, bydd y Tîm Teithiau Addysg yn ystyried tynnu'n myfyriwr yn ôl o'i raglen. |
Amherthnasol |
| 5 wythnos | ||
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb anfoddhaol - 5 wythnos |
Dd/B |
Os bydd y myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod ond nad yw'n ail-gyfranogi yn ei astudiaethau wyneb yn wynebi lefel foddhaol yn ystod yr wythnos yn dilyn y cyfarfod, gan ddangos presenoldeb trwy sweipio cerdyn, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu, fel eithriad, yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl. |
| 6 wythnos | ||
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb anfoddhaol - 6 wythnos |
Os bydd y myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod ond nad yw'n ail-gyfranogi yn ei astudiaethau wyneb yn wyneb i lefel foddhaol yn ystod y pythefnos canlynol, gan ddangos presenoldeb trwy sweipio cerdyn, bydd y Tîm Teithiau Addysg, mewn achosion eithriadol, yn ystyried gwahardd y myfyriwr. |
Amherthnasol |
| Cyfranogiad wyneb yn wyneb ac ar-lein anfoddhaol - 6 wythnos |
Os bydd y myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod ond nad yw'n ail-gyfranogi yn ei astudiaethau wyneb yn wyneb i lefel foddhaol yn ystod y pythefnos canlynol, gan ddangos presenoldeb trwy sweipio cerdyn, bydd y Tîm Teithiau Addysg, mewn achosion eithriadol, yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl. |
Amherthnasol |
Bydd myfyrwyr sy'n cael eu cyfeirio drwy'r broses a ddisgrifir uchod, ac sy'n cael caniatâd i barhau â'u hastudiaethau, yn cael eu monitro'n agos am weddill y flwyddyn academaidd a gellir cysylltu â nhw ynglŷn â'u cyfranogiad eto os yw hyn yn dangos patrymau pryderus yn dilyn y cyfnod 5 neu 6 wythnos. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth o unrhyw ddiffyg cyfranogi pellach a byddant mewn perygl o gael hysbysiad o dynnu'n ôl neu waharddiad os yw hyn yn anfoddhaol.
Bydd Timau Rhaglen yn cael gwybodaeth am fyfyrwyr sydd wedi cael eu huwchgyfeirio drwy'r broses uchod ar sail dreigl yn ystod cyfnodau addysgu o wythnos 2 y broses hon ymlaen.Bydd hyn yn cael ei ledaenu gan y Tîm Presenoldeb Myfyrwyr ym Mywyd Myfyrwyr.
13. Proses Apêl Monitro Cyfranogiad
Yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol, gall myfyrwyr sy'n derbyn hysbysiad o dynnu'n ôl neu waharddiad dros dro gan y Brifysgol gyflwyno cais am adolygiad terfynol o'r penderfyniad hwn. Gall myfyrwyr apelio yn erbyn y penderfyniad drwy gyflwyno Ffurflen Apêl Monitro Cyfranogiad i Dîm Presenoldeb Myfyrwyr, Bywyd Myfyrwyr. Rhaid cyflwyno hwn o fewn 5 niwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost at y myfyriwr yn cadarnhau'r penderfyniad i ddiddyfnu neu i'w wahardd. Bydd y ffurflen yn cael ei hadolygu gan y Tîm Teithiau Addysg neu gynrychiolydd o'r Gyfadran/Ysgol, ac yn achos Llwybr myfyrwyr, y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu. Gellir cyfeirio rhai achosion at Bennaeth Gwasanaeth (neu ei enwebai) cyn cymryd camau diddyfnu neu wahardd dros dro terfynol. Bydd angen i fyfyrwyr sy'n cael caniatâd i barhau yn dilyn canlyniad yr apêl fodloni'r amodau a nodir yn y llythyr cwblhau gweithdrefnau cyfatebol. Gall methu gwneud hynny arwain at gadarnhau'r penderfyniad blaenorol i ddiddyfnu neu i wahardd dros dro. Bydd yr apêl yn golygu cwblhau mecanweithiau apelio mewnol y Brifysgol ar gyfer y Broses Monitro Cyfranogiad.