Harbwr Fulton – Eich Lle Cymdeithasol ar Gampws Singleton
Wedi’i leoli ar lawr cyntaf Tŷ Fulton ac ar agor tan 9yp, mae Harbwr Fulton yn cynnig man cyfarfod cyfforddus a chroesawgar yng nghanol y campws i bawb ei fwynhau. Mae’n cynnig lle cymdeithasol ac ymarferol aml-swyddogaethol, gyda chyfuniad o opsiynau eistedd, stondinau ac arddangosfeydd digidol, yn ogystal ag ardal awyr agored unigryw, y ‘Teras’.
Mae Harbwr Fulton hefyd yn gweini amrywiaeth o gysyniadau bwyd i weddu i bob chwaeth a phob cyllideb – gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar ein tudalennau arlwyo.
Cyfleusterau sydd ar gael
Mae Harbwr Fulton wedi’i gyfarparu’n dda, gan gynnig ystod eang o gyfleusterau. Gyda sawl opsiwn eistedd gan gynnwys soffas cyfforddus, eistedd mewn stondinau ac ardaloedd eistedd haenog, mae’r lle cymdeithasol gwych hwn yn cynnwys sgrin wybodaeth enfawr, cyfleusterau toiled y tu allan i’r ardal, a llawer o lefydd i wefru eich dyfeisiau. Gallwch hefyd fwynhau golygfeydd ar draws y bae o’r teras.
Y Lolfa Croeso
Wrth ymyl Harbwr mae’r Lolfa Croeso, lle i fyfyrwyr gysylltu, cydweithio a phrofi gwahanol ddiwylliannau – gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Lolfa Croeso yma.
Ystafell Ficrodon
Wrth ymyl y Lolfa Fyd-eang, mae lle bach gyda dŵr poeth, microdonnau a seddi i chi eu defnyddio. Gallwch gynhesu eich prydau yn y gofod sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb (DDA) a’u bwyta’n gyfforddus gyda ffrindiau a chyd-fyfyrwyr.
Oriau agor
Prif le Harbwr – Ar agor tan 9yp yn ystod y tymor.
Gwasanaethau arlwyo – 8yb – 8yp yn ystod y tymor – rhagor yma.
Ystafell ficrodon – 8yb – 11yp, dydd Llun i ddydd Sul.