Bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd ar gau dros gyfnod gwyliau’r gaeaf rhwng 24 Rhagfyr 2025 i 5 Ionawr 2026.

Bydd Ffurflen Cymorth Myfyrwyr ar gau rhwng 23 Rhagfyr 2025 i 5 Ionawr 2026.

 

Os oes angen cymorth arnoch chi yn ystod y cyfnod hwn, mae Adnoddau Hunangymorthh ar gael ar ein tudalen we. Mae nifer o opsiynau cymorth eraill ar gael hefyd.

Student Space - Lle i fyfyrwyr addysg uwch gael cymorth, gan gynnwys cymorth drwy neges destun a sgwrs we gan wirfoddolwyr hyfforddedig, yn ogystal â gwybodaeth ac adnoddau i'ch helpu.

Togetherall - Gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein am ddim lle gallwch gael cymorth yn ddienw 24/7 gan glinigwyr hyfforddedig, yn ogystal ag amrywiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol. Mae'n lle diogel ar-lein i drafod eich pryderon, sgwrsio, mynegi eich meddyliau’n greadigol a dysgu sut i reoli eich iechyd meddwl.

 

Os teimlwch fod angen cymorth ar frys arnoch i ddatrys eich anawsterau, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu, yn mynd i adran argyfwng eich ysbyty agosaf, neu’n ffonio GIG Cymru ar 111 i dderbyn unrhyw ofal a chymorth statudol y gallai fod eu hangen arnoch. Mae ein tudalen we Cymorth Mewn Argyfwng hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi neu os ydych chi'n pryderu am rywbeth, yn teimlo'n ofidus neu'n ddryslyd, neu os hoffech chi siarad â rhywun, gallwch chi gysylltu â'r Samariaid drwy ffonio 116 123 o'r Deyrnas Unedig, neu drwy e-bostio jo@samaritans.org

Cymorth

Os wyt ti'n credu bod angen cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnat, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr

Ar ôl adolygu dy ffurflen, byddwn ni'n cysylltu â thi er mwyn rhoi cyngor i ti ar y camau nesaf. 

Ymholiadau

Y ffordd orau o gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw drwy e-bost gan fod hyn yn ein galluogi i gyfeirio ymholiadau i'r tîm cywir yn rhwydd: llesanabledd@abertawe.ac.uk 

Fel arfer byddwn yn ymateb i e-byst o fewn 3 diwrnod gwaith ond efallai y bydd hyn yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.

Gellir cysylltu â Switsfwrdd y Brifysgol ar 01792 205678. Os cewch eich trosglwyddo, mae ein tîm cymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd 1pm a 2pm hyd 4pm. Ni allwn drosglwyddo galwadau i ymarferwyr neu gwnselwyr unigol oni bai bod trefniant ymlaen llaw wedi'i wneud gan y gallai hyn amharu ar apwyntiadau. Os oes angen i chi gysylltu ag aelod penodol o staff, anfonwch e-bost atom a byddwn yn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei drosglwyddo.

Sylwer nad ydym ar agor ar wyliau banc.

Apwyntiadau

Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn amser eich apwyntiad.

Os yw eich apwyntiad yn y Gwasanaeth Lles ac Anabledd ar Gampws Singleton, mae ein Derbynfa yn Ystafell 941 Adeilad Talbot.

Y ffordd fwyaf hygyrch i’n cyrraedd yw drwy fynedfa Adeilad Faraday oddi ar y Rhodfa ac ewch ar hyd y corridor hir yn syth o’ch blaen. Trowch i’r dde drwy’r drysau dwbl brown ac mae ein Derbynfa 5 drws i lawr ar y chwith. Mae mapiau o’r campws ar gael.

Cofiwch mai gwasanaeth drwy apwyntiad yn unig yw hwn ac nid ydym yn cynnig apwyntiadau galw heibio. I drefnu apwyntiad, gweler yr adrannau Cymorth ac Ymholiadau uchod.

 

Cyfrinachedd, Adborth a Chwynion

Rhagor o wybodaeth