Cystadleuaeth Big Pitch flynyddol Prifysgol Abertawe
Yn ystod ein cystadleuaeth flynyddol The Big Pitch, mae gan fyfyrwyr a graddedigion diweddar 3 munud i gyflwyno am:
- Gyllid Busnes
- Lle ar Sesiwn Hyfforddi Busnes
- Mentora
- Tocynnau lleoedd cydweithio
- Mynediad at rwydweithiau a dosbarthiadau meistr
Mae'r canllaw hwn yn egluro'r broses a'r cymhwysedd ar gyfer y rhai hynny sy'n gwneud cais am gyllid busnes.
Pwy sy’n gymwys?
- Rhaid i fyfyrwyr a graddedigion diweddar wneud cais gyda'u syniad EU HUNAIN.
- Os ydych chi'n raddedig, rhaid i chi fod wedi graddio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i fod yn gymwys i wneud cais a chael cyllid.
- Daw cyllid busnes a ddarperir drwy The Big Pitch gan Brifysgolion Santander y DU a dim ond tuag at fusnesau a fydd ar waith yn y DU y gellir ei ddefnyddio.
- Hynny yw, os ydych chi'n astudio ar Fisa Myfyriwr/ Haen 4, ni allwch wneud cais am gyllid busnes oherwydd ni allwch sefydlu busnes yn gyfreithiol yn y DU ar y fisa hwnnw.Fodd bynnag, gallwch chi barhau i ymgeisio am y gwobrau eraill i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd.
- Mae angen i'ch busnes fod yn masnachu ac wedi'i gofrestru (masnachwr unigol, cwmni cyfyngedig, ac ati) neu'n gwneud hynny’n fuan.
(Sylwer: os ydych chi'n raddedig neu'n mynd i raddio'n fuan ar Fisa Myfyriwr Haen 4 ac eisiau sefydlu busnes yn y DU, efallai y byddwch chi'n gymwys ar gyfer y Fisa Cychwyn Busnes, sy'n caniatáu ichi sefydlu a chynnal busnes yn y DU am ddwy flynedd ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau, ar yr amod bod y busnes yn arloesol, yn hyfyw ac â photensial am dwf mawr. Gallwch ddysgu mwy yma: https://www.swansea.ac.uk/international-campuslife/immigration/start-up-visa-route-post-study-entrepreneur-/#bbq=on)
Sut mae'r cyllid yn gweithio?
Os byddwch yn llwyddiannus wrth geisio am gyllid busnes, ni fyddwch yn cael yr arian, mae'n gweithio fel ad-daliad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wario'r arian yn gyntaf gan ddefnyddio eich arian eich hun a chadw'r holl dderbynebau/prawf prynu er mwyn hawlio'r arian yn ôl.
I gael ad-daliad ar yr arian rydych wedi'i wario, byddwch yn cael Ffurflen Treuliau Myfyrwyr y bydd angen i chi ei chwblhau a'i hanfon i enterprise@abertawe.ac.uk ynghyd â derbynebau/prawf prynu. Yna bydd eich taliad yn cael ei brosesu.
Tuag at beth gall y Cyllid Busnes gael ei ddefnyddio?
- Offer (iar yr amod ei fod ar gyfer eich busnes yn benodol ac wedi'i gytuno ymlaen llaw)
- Stoc
- Datblygu gwefan / Meddalwedd fusnes
- Prototeipiau / Datblygu cynhyrchion
- Gwisgoedd i'r busnes / Marchnata a hyrwyddo (cardiau busnes, dyluniadau graffig, talu am hysbysebion, ac ati)
- Aelodaethau busnes (sy'n gysylltiedig yn benodol â'ch busnes)
Sylwer: rhaid cytuno ar bob eitem ymlaen llaw â'r Tîm Mentergarwch. Eitemau sy'n fuddiol i'r defnyddiwr ac nid i'r busnes (h.y. ni fydd cerbydau , gliniaduron/cyfrifiaduron ) yn dderbyniol.
Dyddiad cau'r hawliad?
Rhaid i chi hawlio eich arian yn ôl erbyn 19 Chwefror 2026.